Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 3 Ebrill 2014

 

 

 

Amser:

09.00 - 12.45

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_500001_03_04_2014&t=0&l=en

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Christine Chapman AC (yn lle Sandy Mewies AC)

Mike Hedges AC

Alun Ffred Jones AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Fay Buckle (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

1.2 Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor yr etholwyd William Graham i'r Pwyllgor ddydd Mawrth ond anfonodd ei ymddiheuriadau oherwydd gwrthdaro yn ei ddyddiadur.

 

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Christine Chapman yn dirprwyo ar ei rhan.

 

1.4 Croesawodd y Cadeirydd Kate Kuring, rheolwr archwilio perfformiad o Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Victoria, Awstralia, sy'n ymweld â Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o daith i astudio swyddfeydd archwilio y DU.

 

</AI2>

<AI3>

2    Papurau i’w nodi

2.1 Nodwyd y papurau.

 

</AI3>

<AI4>

2.1  Cyflogau Uwch-reolwyr: Llythyr gan Richard Tompkins, Cyfarwyddwr Cyflogwyr GIG Cymru (3 Mawrth 2014)

 

</AI4>

<AI5>

2.2  Cyflogau Uwch-reolwyr: Gwybodaeth ychwanegol gan Peter Smith, The Hay Group (Mawrth 2014)

 

</AI5>

<AI6>

2.3  Cyflogau Uwch-reolwyr: Papur diwygiedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Mawrth 2014)

 

</AI6>

<AI7>

3    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

4    Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r camau nesaf

4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ddau adroddiad Buddiannau'r Cyhoedd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr 2014, ar Gyflogau a Phensiynau Uwch-swyddogion - Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyflogau a Phensiynau Uwch-swyddogion - Cyngor Sir Penfro.

 

4.2 Cytunodd yr Aelodau i gasglu rhagor o dystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad gan swyddogion monitro awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y sectorau addysg bellach ac addysg uwch a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

 

</AI8>

<AI9>

5    Rheoli Cyflyrau Cronig: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

5.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Cyflyrau Cronig.

 

5.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

5.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal ymchwiliad i'r mater.

 

</AI9>

<AI10>

6    Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru: Papur briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

6.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru.

 

6.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

6.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal ymchwiliad i'r mater.

 

</AI10>

<AI11>

7    Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Y camau nesaf

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gofyn am amserlen, os yw'n bosibl, mewn perthynas â rhaglen waith y Pwyllgor i wneud gwaith pellach ar y mater.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater hwn ar ôl i ymatebion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ddod i law.  

 

</AI11>

<AI12>

8    Blaenraglen waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

8.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

 

</AI12>

<AI13>

9    Gofal heb ei drefnu: Cytuno ar yr adroddiad terfynol

9.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyfeirio at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Rheoli Cyflyrau Cronig, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Anfonir drafft pellach ar gyfer cytundeb terfynol drwy e-bost a nododd yr Aelodau y cyhoeddir yr adroddiad ar 24 Ebrill.

 

 

</AI13>

<AI14>

10        Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o argymhellion. Bydd yr Aelodau'n ail-drafod drafft pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>